Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

E&S(4)-09-11 papur 1

 

Ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru – Tystiolaeth gan yr Arolygiaeth Gynllunio

 

 

 

 

 

TYSTIOLAETH YR AROLYGIAETH GYNLLUNIO I YMCHWILIAD PWYLLGOR AMGYLCHEDD A CHYNALIADWYEDD CYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU I BOLISI A CHYNLLUNIO YNNI YNG NGHYMRU

 

19  Medi 2011

 

Rydym yn ddiolchgar i’r pwyllgor am ein gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’w ymchwiliad.  Isod, ceir cyflwyniad a chefndir ffeithiol a phrif bwyntiau ein tystiolaeth.

 

Cyflwyniad a chefndir ffeithiol

 

Mae Arolygiaeth Gynllunio Cymru yn Gyfarwyddiaeth o fewn yr Arolygiaeth Gynllunio, sef un o asiantaethau’r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol yn Lloegr a Llywodraeth Cymru.  Mae Arolygiaeth Gynllunio Cymru wedi’i lleoli yn Adeiladau’r Goron, Parc Cathays, Caerdydd.  Mae’n ymdrin â phob apêl gynllunio sy’n cael ei chyflwyno i Weinidogion Cymru a cheisiadau sy’n cael eu galw i mewn.  Hefyd, mae’n ymdrin ag ystod eang o apeliadau a gorchmynion a wneir dan ddeddfwriaeth arall, gan gynnwys apeliadau trwyddedau amgylcheddol, gorchmynion hawliau tramwy a cheisiadau ar gyfer gwaith ar dir comin. 

 

Caiff y rhan fwyaf o achosion eu trosglwyddo i Arolygwyr sy’n gwneud y penderfyniad ar ran y Gweinidog.  Fodd bynnag, yn achos ceisiadau sy’n cael eu galw i mewn dan A77 Deddf 1990, a nifer fach iawn o apeliadau sy’n cael eu hadfer, y Gweinidog sy’n gwneud y penderfyniad terfynol ar sail adroddiad a baratoir gan Arolygydd. 

 

Eir i’r afael ag apeliadau dan 3 gweithdrefn wahanol, sef sylwadau ysgrifenedig (lle mae’r penderfyniad wedi’i seilio ar dystiolaeth ysgrifenedig ac ymweliad â’r safle); gwrandawiadau (sef proses anffurfiol lle gall partïon fynegi eu barn ar lafar i Arolygydd); ac ymchwiliadau (lle caiff y dystiolaeth ei phrofi’n ffurfiol dan groesholiad gan eiriolwyr).  O’r apeliadau cynllunio a dderbyniwyd yn 2010/11, aethpwyd i’r afael â 584 (79%) ohonynt trwy sylwadau ysgrifenedig, 123 (17%) ohonynt trwy wrandawiadau a 28 (4%) ohonynt trwy ymchwiliadau. 

 

Cyn mis Ebrill 2010, cyflwynwyd cynigion ar gyfer seilwaith ynni mawr yng Nghymru, fel gorsafoedd generadu dros 50MW neu linellau pŵer uwchben, ir Adran Ynni a Newid Hinsawdd dan a36 neu a37 Deddf Trydan 1989 a benderfynwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol.  Aethpwyd ir afael â chynigion datblygu ynni eraill y mae angen caniatâd cynllunio arnynt dan y Deddfau Cynllunio Gwlad a Thref  gan Arolygiaeth Gynllunio Cymru naill ai os oeddent wedi’u galw i mewn gan Weinidogion Cymru neu os oedd yr awdurdod lleol wedi gwrthod rhoi caniatâd i’r ymgeisydd a’i fod wedi apelio i’r Gweinidog.  Er mis Ebrill 2010, bu’n ofynnol i gyflwyno ceisiadau ar gyfer prosiectau ynni yng Nghymru sy’n cynnwys gorsafoedd generadu, llinellau trydan uwchben y ddaear, cyfleusterau storio nwy dan y ddaear mewn strata mandyllog naturiol, neu biblinellau heblaw am biblinellau cludo nwy, sydd uwchben y trothwyon perthnasol y manylir arnynt yn Neddf Gynllunio 2008 (a15-21)[1], i’r Comisiwn Cynllunio Seilwaith (IPC) ar gyfer caniatâd.

 

Yn wahanol i Loegr, nid yw ceisiadau ar gyfer datblygiadau cysylltiedig a/neu ganiatâd ategol yng Nghymru o fewn cymalau’r IPC ac maent yn parhau i gael eu penderfynu fel o’r blaen.  O ganlyniad, gallai’r Arolygiaeth fynd i’r afael ag unrhyw rai o’r cynigion hyn o hyd lle cânt eu galw i mewn gan Weinidogion neu os ydynt yn destun apêl.

 

Mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu diddymu IPC, gan ymgorffori ei swyddogaethau yn yr Arolygiaeth Gynllunio trwy greu cyfarwyddiaeth seilwaith cenedlaethol newydd ar wahân o fewn yr Arolygiaeth Gynllunio.  Bydd y gyfundrefn cynllunio seilwaith yn parhau heb ei newid i raddau helaeth, ond caiff y pŵer i benderfynu ar geisiadau ar gyfer caniatâd datblygu ei drosglwyddo i’r Ysgrifennydd Gwladol.  Daw’r newidiadau hyn i rym o fis Ebrill 2012, yn amodol ar ddeddfu’r Bil Lleoliaeth.  Bydd y gyfarwyddiaeth seilwaith cenedlaethol ar wahân newydd, a fydd wedi’i lleoli ym Mryste, yn mynd i’r afael â phob cynnig ar gyfer y seilwaith cenedlaethol a gwmpesir gan Ddeddf 2008 yng Nghymru a Lloegr. 

 

Bydd Arolygiaeth Gynllunio Cymru yn parhau i fynd i’r afael â’r holl waith achos y mae Gweinidogion Cymru’n gyfrifol am wneud penderfyniad yn ei gylch.

 

Er bod rhaid penderfynu ar bob apêl/cais cynllunio ar ei deilyngdod ei hun, y man cychwyn ar gyfer unrhyw benderfyniad yw polisi’r Cynllun Datblygu, ar yr amod bod un wedi’i fabwysiadu a’i fod yn cynnwys polisïau sy’n berthnasol i’r cynnig.  Mae adran 38(6) Deddf Cynllunio ac Iawndal 2004 yn mynnu bod y sawl sy’n gwneud y penderfyniad yn penderfynu ar yr apêl/cais yn unol â’r Cynllun Datblygu, oni bai bod ystyriaethau perthnasol yn nodi’n wahanol.  Wrth gwrs, bydd ystyriaethau perthnasol eraill yn cynnwys polisi cenedlaethol, fel y gosodir ym Mholisi Cynllunio Cymru, a’r Nodiadau Cyngor Technegol perthnasol, gan gynnwys NCT8, a datganiadau polisi cynllunio interim y gweinidog (MIPPS).  Gan fod Arolygwyr yn gweithredu ar ran y Gweinidog, fel arfer byddant yn ceisio gwneud eu penderfyniad yn unol â pholisïau cenedlaethol, oni bai bod ystyriaethau eraill o bwys sylweddol a fyddai’n cyfiawnhau gwyro oddi wrth bolisïau cenedlaethol dan amgylchiadau penodol yr achos.

 

Mae NCT8 yn cefnogi cynlluniau ynni adnewyddadwy bach cymunedol sy’n llai na 5MW, cyn belled â’u bod yn bodloni’r meini prawf cynllunio arferol.  Mae’n awgrymu y dylid crynhoi cynlluniau mwy ar gyfer tyrbinau gwynt (dros 25MW) mewn 7 Ardal Chwilio Strategol (AChS).  Fodd bynnag, mae hefyd yn awgrymu y gallai awdurdodau lleol ystyried cynigion ar dir y tu allan i AChSau ond yn gyfagos atynt, cyn belled â bod achos digon cadarn ac nad oes unrhyw gyfyngiadau cynllunio.

 

Yn 2009/10, aeth Arolygiaeth Gynllunio Cymru i’r afael ag 11 o apeliadau/ceisiadau yn ymwneud â datblygiadau ynni adnewyddadwy.  Gyda’i gilydd, roedd y cynigion yn cynnwys 43 o dyrbinau gwynt, yn amrywio o un tyrbin i 16 o dyrbinau.  Y cynllun diwethaf yn Rhydaman oedd yr unig gynllun a alwyd i mewn i’w benderfynu gan y Gweinidog.  O’r 11 o achosion, cymeradwywyd 7 ohonynt, gan roi caniatâd ar gyfer 24 o dyrbinau, gan gynnwys y cynllun yn Rhydaman.  Cafodd y 5 apêl a oedd yn weddill, a oedd yn cynnwys 20 o dyrbinau, eu gwrthod. 

O’r 3 achos a oedd yn cynnwys cynigion o fwy na 5MW, roedd un ohonynt o fewn AChS (cynllun ar gyfer 13 o dyrbinau yng Ngorsedd Bran, Nantglyn) ac roedd 2 ohonynt ar ymyl AChS (roedd y rhain yn cynnwys cynllun ar gyfer 16 o dyrbinau yn Rhydaman a chynnig i ychwanegu 3 thyrbin ychwanegol at fferm wynt bresennol o fewn AChS yng Nghastellnewydd Emlyn).  Er ei fod y tu mewn i AChS, cafodd y cynllun ar gyfer 13 o dyrbinau gwynt ei wrthod ar sail ei effaith ar olygfeydd pwysig a s
ŵn.  I’r gwrthwyneb, cymeradwyodd y Gweinidog y cynllun ar gyfer 16 o dyrbinau ar ymyl AChS, gan ddod i’r casgliad nad oedd y niwed y byddai’n ei achosi yn gorbwyso’r cyfraniad y byddai’n cynllun yn ei wneud i ddarparu trydan o ffynonellau adnewyddadwy.  Gwrthodwyd y cynllun ar gyfer 3 thyrbin ychwanegol oherwydd ei effaith weledol.

 

Yn 2010/11, aeth Arolygiaeth Gynllunio Cymru i’r afael â 7 o apeliadau’n ymwneud ag ynni adnewyddadwy.  Roedd tair o’r rhain ar gyfer cynlluniau ynni gwynt a oedd yn cynnwys cyfanswm o 24 o dyrbinau, yn amrywio o un tyrbin i gynllun ar gyfer 19 o dyrbinau ym Mynydd y Gwair, Abertawe.  Yr apêl ar gyfer y tyrbin unigol yn unig a gymeradwywyd, a gwrthodwyd y ddwy apêl arall a oedd yn cynnwys 23 o dyrbinau.  Roedd y 4 apêl arall yn ymwneud ag ynni adnewyddadwy yn ymwneud â ffatri ynni biomas neu dreulwyr anerobig.  Caniatawyd tair o’r rhain a gwrthodwyd un ohonynt.

 

O’r ddau gynllun ar gyfer ffermydd gwynt a wrthodwyd, roedd yr un ar gyfer 19 o dyrbinau ym Mynydd y Gwair wedi’i leoli mewn AChS, ond nid oedd y cynllun arall ar gyfer 4 o dyrbinau ger y Blaenau, Blaenau Gwent.  Cafodd y cynllun cyntaf,  a adferwyd i’w benderfynu gan y Gweinidog, ei wrthod oherwydd ei effaith annerbyniol ar gynefin gorgors.  Mae’r penderfyniad hwn yn destun her gyfreithiol ar hyn o bryd.  Gwrthodwyd yr ail gynllun oherwydd ei effaith ar y dirwedd.

 

Ar hyn o bryd, mae gan yr Arolygiaeth 2 apêl arall yn ymwneud ag ynni adnewyddadwy sy’n aros am benderfyniad.  Bydd un ohonynt ar gyfer 7 o dyrbinau gwynt yng Nghilfach Goch yn cael ei chlywed mewn ymchwiliad ym mis Hydref.  Mae’r llall ar gyfer ffatri biomas gwres a phŵer cyfunedig 25MW yn Nociau Alexandra yng Nghasnewydd ar encil ar hyn o bryd, gan ir Cyngor gymeradwyo cynllun tebyg mewn egwyddor, ond mae’n aros i lofnodi cytundeb dan Adran 106 Deddf Cynllunio 1990.

 

 

Peter Burley

Cyfarwyddwr Cymru

Yr Arolygiaeth Gynllunio                                                                       t



[1] Y trothwy ar gyfer gorsafoedd generadu ynni, gan gynnwys ffermydd gwynt, yw unrhyw ddatblygiad sy’n fwy na 50MW ar y tir a 100MW alltraeth.